blank
bla nk
blank

Ein storïau
Stori Jackie

Fy enw yw Jackie.  Rwy’n alcoholic yn nyddiau cynnar gwella.  Nid wyf bellach yn yfed, nac eisiau yfed ar hyn o bryd.  Mae’r obsesiwn wedi mynd am heddiw.  Heddiw gallaf ddweud mod i wedi cael ail gyfle mewn bywyd, ac rwy’n ddiolchgar .. am fod yn fyw ... am gael teulu cariadus a arhosodd gyda fi drwy’r holl adegau hynny pan es i nol i yfed, teulu na drodd ei gefn arnaf.  Rwy’n ddiolchgar am gael y cyfeillgarwch a’r gefnogaeth y mae AA yn ei gynnig imi pan mae bywyd yn gwneud ei bethau ac yn taflu’r annisgwyl ataf.  Mae mwy hefyd .. llawer mwy.  Dyma fy stori. 

Fe’m ganwyd ar ffarm fynydd 200 erw yn Ne Cymru ar Fai’r 6ed 1965, y drydedd o bedair merch.  Cofiaf ei bod hi’n oer iawn ac yn wyntog yno.  Roedd fel pebai mam a dad yn gweithio drwy’r amser.  Rwy’n credu mod i’n blentyn tawel –  gyda dreif ac uchelgais.  Byddai fy rhieni weithiau’n dweud mod i’n “ddwfn iawn”.  Yn rhyfedd, arferwn feddwl bod hynny’n ganmoliaeth.  Roedd fy mywyd i gyd ynglyn a gwaith ysgol, fy mhiano, eisteddfodau ac unrhywbeth arall oedd yn rhoi cyfle imi ennill rhywbeth – roedd gen i’r dreif hwnnw.  Darllenais lawer o nofelau hefyd – ffuglen gan fwyaf.  Yn fy arddegau cynnar fe es i’n gaeth iawn i jigsos.  Gallaf gofio cael fy ngorchymyn i adael llonydd iddo am 2am yn y bore, a finnau’n pledio, “ Dwi .. jyst .. am ffeindio’r un darn yma gynta’” .. mewn jigso 2500 darn.  Ymarferais y piano tan bod fy nghefn yn brifo cyn yr arholiadau.  Weithiau ro’n i’n astudio cyn yr arholiadau ysgol tan oriau man y bore.  Nid oeddwn yn gwneud dim yn gymhedrol – personoliaeth gaethiwus efallai ? 
.

Datblygais hefyd rhyw fath o anhwylder bwyd yn fy arddegau cynnar.  Wnes i ddim cyfadde hyn tan yn gymharol ddiweddar, er nad yw heddiw y fater pwysig yn fy mywyd.  Penderfynais yn sydyn mod i’n rhy fawr a chwithig.  Allan a’r siocled, creision, sglodion, bwyd wedi ffrio dros nos.  Ro’n i’n gwybod faint o galoriau oedd yn y rhan fwyaf o bethau, ac os nad oeddwn yn gwybod, ro’n i’n edrych cyn bwyta.  Diwrnod gwael iawn oedd un pan ro’n i’n bwyta dros 600 calori.  Doedd dim llawer o’r rheini !  Ro’n i’n gyson yn meddwl am fwyd – cynllunio faint o galoriau, osgoi prydau, y math yna o beth.  Rwy’n edrych yn denau a gwelw yn lluniau’r dyddiau hynny.  Gallaf gofio teimlo’n llesg iawn, ac yn oer ar adegau.  Roedd obsesiwn llwyr gen i ynglyn a bod yn fach a delicet.

Cefais fy niod cynta ym mhenblwydd fy chwaer hynaf yn 18.  12 o’n i.  Blue Moon – cointreau, curacao glas – sdwff cry’.  Cychwynais fel ro’n i’n bwriadu parhau mae’n amlwg.  Cofiaf deimlo ychydig yn benysgafn ond dim llawer gwaeth na hynny.  Cefais fy niod nesa’ o gwmpas yr 17 oed, rwy’n credu.  Yfwn yn gymdeithasol bryd hynny – mynd allan ar nosau Mercher a Sadwrn.  Hyd yn oed bryd hynny, pan rwy’n meddwl am y peth, ro’n i’n yfed i eithafion.  Ro’n i’n mynd allan i gael amser da a meddwi’n gaib.  Ro’n i’n allblyg a hyderus yn fy niod – doedd dim ots gen i, ro’n i wrth fy modd gyda’r teimlad o beidio malio am ddim byd.  Roedd fy ffrindiau’n meddwl mod i’n ddoniol yn fy niod.  Ro’n i’n credu mod i’n boblogaidd.  Roedd y rhybuddion yno ! 

Roedd mam wedi cadw hambwrdd bach o wirodydd yn y  cwpwrdd – gin, yn bennaf.  Gallaf gofio yfed hwnnw hefyd, ar ol i’m rhieni fynd i’r gwely  yn ystod fy lefel A – i’m helpu gysgu, weithiau i anghofio.  

Gadewais yr ysgol ym 1983 gyda 11 lefel O, lefel A mewn Ffiseg, Cemeg a Mathemateg.  Ro’n i hefyd wedi cael tystysgrif am ennil ar adrodd yn yr eisteddfod genedlaethol, diploma am ganu’r piano.  Roeddwn wedi dewis astudio gwyddoniaeth oherwydd ro’n i o’r farn bod mwy o ddyfodol imi yn y maes hwnnw, er mod i’n hoffi’r celfyddydau hefyd.  Wnes i erioed stopio a meddwl beth ro’n i’n ei fwynhau.  Ro’n i bob amser yn trio profi fy hun – i fod yn rywbeth, rhywun mwy nag o’n i.  Do’n i byth yn ddigon da imi fy hun. 

Y Brifysgol – blynyddoedd da.  Gwnes ffrindiau ardderchog yn y Brifysgol.  Blynyddoedd o hwyl.  Gweithio’n galed, chwarae’n galed.  Fel llawer i rai eraill, neu dyna ro’n i’n meddwl.  Ro’n i’n yfed bob nos.  Weithiau doedd dim arian am fwyd ond roedd gen i arian bob amser am ddiod.  Roedd astudio ar hangofyr yn ddigwyddiad cyffredin, er mod i’n llwyddo i roi’r gwaith i nhiwtoriad ar amser.    

Yn fy nhrydedd blwyddyn fe gefais bamffled yn y swyddfa yrfaoedd ynglyn a’r Proffesiwn Actiwari.  Cofiaf y geiriau allweddol nawr.  Proffesiwn uchel ei barch yn y byd arian, arholiadau anodd gyda nifer uchel o bobol yn methu, potensial o gyflog uchel – her arall eto.  Ro’n i’n barod i ymuno. 

Cefais fy hun yn gweithio yn Holborn Circus, ymhlith pobol alluog iawn, mathemategwyr gan fwyaf, llawer o gefndiroedd breintiedig.  Ro’n i’n byw uwch ben siop garpedi yn Penge, De Llundain, yn agos at fodryb ac ewythr.  Ro’n i’n gyfangwbl ar goll ar y dechrau – yn ‘nabod braidd neb.  Roedd Llundain mor wahanol i Gaerdydd.  Dechreuais ddod i ‘nabod fy nghydweithwyr yn gymdeithasol.  Roedd diod yn dechrau “helpu”.  Fi oedd canol a chalon y parti gyda diod y tu mewn imi.  Ychydig a wydden nhw mod i’n barod wedi dechrau teimlo cywilydd o’m hymddygiad pan ro’n i’n yfed.  Wrth edrych yn ol ro’n i’n anhapus iawn ac yn brwydro i ymdopi – yn arbennig pan yn astudio, rhywbeth ro’n i’n ei wneud ar ol dychwelyd o’r gwaith yn y nos, er na fyswn i byth wedi cyfadde’ hyn i fi fy hun na neb arall. 

Cyn hir dechreuodd pethau ddod yn haws ac fe setlais yn Llundain.  Newidiais gyflogwr.  Priodi.  Yn 1993 fe enillais fy nghymwysterau fel actiwari.  Ychwanegwyd at fy nghyfrifoldebau gwaith, ro’n i’n gwneud yn dda.  Fe brynon ni dy, teithio i wahanol lefydd ar wyliau blynyddol a phenwythnosau hir.  Dylswn fod wedi bod yn fodlon fy myd.  Yn rhyfedd iawn, doeddwn i ddim.  Unwaith i’r astudio gyda’r nos ddod i ben, dechreuais yfed bob nos.  Nid i eithafion, ond roedd yr arferiad yn cydio. 

Yna, effeithiwyd ar y byd arian gan ddirwasgiad.  Roedd bygythiad diswyddo yn hongian uwch ein pennau.  Roedd pobol yn edrych dros eu hysgwyddau.  Roedd straen yn yr amgylchfyd gwaith.  Roedd fy ngwr yn wynebu sefyllfa debyg.  Stopion ni siarad.  Ro’n i’n dechrau teimlo’n unig, pryderus ac isel fy ysbryd.  Roedden ni wedi stopio gweld ffrinidau a’u gwahodd i’r ty – roedd gennyf i a ngwr gywilydd o’m hyfed i. 

Ym 1995 newidiais gyflogwr eto.  Ysgafnhaodd fy yfed rhywfaint.  Cyfnod mis mel oedd hi yn y gwaith.  Ro’n i’n cael cyfleodd newydd, llawer o anogaeth.  Ro’n i’n hoffi’m cydweithwyr.  Ysbaid dros dro oedd hyn, wrth i’r patrwm ail-ymddangos.  Daeth y cyfnod mis mel i ben, cynyddodd y pwysau, dirywiodd fy mhriodas, daeth yr yfed yn ol.  Roedd yn llawer gwaeth y tro hyn.  Ro’n i bellach wedi dechrau yfed yn ystod y dydd, weithiau yn y bore.  Ro’n i’n yfed er mwyn medru cario’n fy mlaen – yn credu ei fod yn gymorth imi ymdopi.  Ro’n i wedi cael dau rybudd yn y gweithle – roedd pobol yn sylwi.  Ond doeddwn i dal ddim yn cyfadde bod gen i broblem.  Roedd fy ngwr yn mynd yn fwy a mwy rhwystredig a blin wrth fy ngweld gyda diod yn fy llaw. 

Weithiau, byddwn yn stopio yfed am rai dyddiau, weithiau am rai wythnosau, ond yn hwyr neu’n hwyrach, byddwn yn dychwelyd ato.  Fedrwn i ddim siarad am y peth gyda neb.  Roedd cywilydd y peth yn fy mwyta’n fyw.  Ro’n i’n cuddio fy yfed – yfed ar fy mhen fy hun amser cinio mewn tafarndai lle na fedrai neb fy ngweld, cuddio poteli gwin adre.  Ro’n i’n byw mewn ofn – ofn y byddai ‘niod yn cael ei ddarganfod a’r gweiddi fyddai’n dilyn, ofn y canlyniadau yn y gwaith.  Ro’n i ar lethr llithrig.  Roedd fy mywyd yn cwympo’n ddarnau.  Ro’n i’n colli popeth. 

Newidiais gyflogwr eto.  Bedair wythnos ar ol ymuno a’r cyflogwr newydd es i allan gyda’r staff, meddwi’n ofnadwy, syrthio ar risiau gorsaf tanddaear St Paul, o’r top i’r gwaelod bron a bod.  Torrais asgwrn fy ngholer, yn ffodus i beidio a bod wedi torri ‘ngwddw’.  Ro’n i’n absennol o’r gwaith am chwe wythnos.  Dilynodd alcholoiaeth fi.  Roedd cwestiynau’n cael eu gofyn eto.  Ar ol hynny, llwyddais i stopio yfed yn ystod y dydd am gwpwl o flynyddoedd a dod yn Bartner Cysylltiol yn y cwmni.  Yn y man fodd bynnag dychwelodd yr yfed a chollais fy swydd.  Ni ellid dibynnu arnaf mwyach i wneud y gwaith roedd yn rhaid imi ei wneud, na bod yno pan oedd fy angen i.  Roedd yn rhaid imi fynd. 

Ro’n i nawr wedi colli fy hunaniaeth.  Yn methu gweithio mwyach, dim ffrindiau, priodas wedi methu – ro’n i’n boddi fy hunan-dosturi mewn diod.  Roedd fy ngwr yn dweud nad oedd ots ganddo ef.  Yn rhydd i ddilyn fy nhrywydd fy hun drwy’r dydd, ro’n i’n yfed yn ddibaid.  Weithiau byddwn yn mynd i weld meddyg, siarad rhywfaint, ond doedd dim yn gweithio.  Ro’n i’n hynod isel fy ysbryd a phryderus ac yn fwyfwy dibynnol ar alcohol.  Ro’n i’n dirywio’n gyflym, ddim yn bwyta’n iawn mwyach, nac yn edrych ar fy ol fy hun yn iawn.  Doeddwn i ddim yn gwybod pwy na beth oeddwn i.  

Un bore yn fy niod, gadewais y ty.  Doedd gen i ddim cynlluniau.  Doedd dim ots gen i.  Do’n i jyst ddim am aros adre.  Es i aros mewn gwesty – fi a ‘nghi.  Wnes i ddim byd am y rhan helaeth o’r wythnos ond yfed, bwyta ychydig, a cherdded fy nghi weithiau.  Ni ddywedais wrth neb lle ro’n i.  Awst 2005 oedd hi. 

Rhywsut yn ystod yr wythnos daeth fy chwaer ieuengaf o hyd imi a mynd a fi nol at fy mam.  Doedden nhw ddim yn gwybod llawer am gyflwr fy meddwl.  Dywedon nhw wrthyf yn ddiweddarach eu bod mewn sioc am gryn dipyn ar ol imi gyrraedd yno.  Mae’n rhaid ei bod hi wedi bod yn anodd iawn iddyn nhw.  Ro’n i’n ynysu fy hun, ddim yn siarad, yn cuddio fodca yn nhy fy mam.  Dechreuais weld fod gen i broblem ac ro’n i’n fodlon trio.

Ro’n i yn y cylch cythreulig o ddechrau a stopio am 2 ½ mlynedd ar ol hynny.  Es i am driniaeth y tro cyntaf yn Chwefror 2006.  Wnes i ddim gwrando ar yr hyn ddywedwyd wrthyf.  Gadewais ar ol 6 wythnos.  Ymunais ag AA ac wedyn gadael ar ol 6 wythnos.  Flwyddyn a chwarter wedyn ro’n i nol yn AA, ar ol cael fy arestio wedi malu ‘nghar tra’n yfed a gyrru.  Yn ffodus iawn, ni anafwyd neb.  Y tro hyn, gallwn gyfadde mod i’n alcoholic.  Dechreuais wrando i’r rhai o ‘nghwmpas.  Gwelais ddealltwriaeth, caredigrwydd, pobol dyner oedd a phrofiadau tebyg a phobol wedi gwella. 

I gychwyn doeddwn i ddim yn deall llawer o’r hyn a ddywedwyd.  Ro’n i wedi gweld y cam cyntaf yn ystod fy nhriniaeth ac roedd gen i rywfaint o ddealltwriaeth o “ddiffyg rheolaeth” a “diffyg grym”.  Ysgrifenais frawddegau AA fel “Ara’ deg mae ei gwneud hi”, “Y peth cynta’ gynta’ “, “Meddwl, meddwl, meddwl” ar ddrws fy oergell.  Yn ara’ deg dechreuais siarad ychydig am yr hyn oedd yn digwydd yn fy mywyd, a rhai o’r pethau ro’n i wedi eu gwneud yn fy niod.  Ni feirniadwyd fi.  Roedd hynny’n gymaint o gysur imi, ac yn ryddhad hefyd i ddweud wrth rhywun am rai o’r pethau yr oeddwn i wedi mynd i’r fath drafferth i’w cuddio am gyfnod cyhyd.  Dywedwyd wrthyf bod gen i salwch – nad fy mai i ydoedd.  Fe helpodd hyn i ddechrau codi ychydig o’r cywilydd ro’n i’n ei gario ac a oedd wedi ‘nghadw ‘n dawel gyhyd.  

Roedd derbyn fy alcoholiaeth yn broses llawer hirach.  Dechreuais gael cyfnodau hirach heb yfed.  Bob tro ro’n i’n stopio, ro’n i’n meddwl mod i wedi stopio ‘n derfynol.  Mewn gwirionedd fodd bynnag, ro’n i wedi datblygu’n yfwr binj, er na allwn weld hynny ar y pryd.  Byddwn yn dychwelyd at yfed ar ol cyfnod o tua 6-8 wythnos o ymatal.  Bob tro ro’n i’n dychwelyd at ddiod roedd y boen gorfforol ac emosiynol yn gwaethygu.  Er hynny, roeddwn i’n dal i allu anghofio’r boen pan yn dychwelyd at yfed.  Ro’n i’n byw mewn ofn, ddim yn ymdopi pan nad oeddwn yn yfed, yn cloi fy hun i ffwrdd o’r byd tu allan.  Ro’n i’n fy nghasau fy hun yn ystod y cyfnodau byr “corpus mentis” pan ro’n i’n mynd nol i yfed.  Ro’n i’n dechrau meddwl am fy lladd fy hun pan yn sychu allan, ac rwy nawr o’r farn mod i mewn perygl corfforol bob tro ro’n i’n dychwelyd at yfed. 

Hyd yn oed drwy hyn oll, ro’n i’n dal i gredu bod gen i beth “rheolaeth” dros fy yfed – gwallgofrwydd y peth.  Bob tro ro’n i’n dychwelyd at yfed byddwn yn fy argyhoeddi fy hun ... “dim ond am gyfnod byr fyddai o.  Fyddai ‘mywyd i ddim yn cael ei effeithio gan fy “ngwyliau bach”, a fyddai neb yn gwybod.  Ar ol cyfnod byr byddwn yn codi fy hun ohono a byddai popeth yr un fath ag o’r blaen, yn normal.”  Ro’n i’n gwbl hunandwyllodrus. 

Y tro diwethaf imi yfed doedd dim bwriad gennyf i stopio.  Ro’n i’n credu erbyn hynny mod i wedi trio popeth.  Roedd y gobaith ro’n i wedi ei ganfod yn AA wedi ‘ngadael.  Ro’n i mewn gwir angen.  Dim ond bryd hynny, yn y sbri yfed olaf, y daeth aelod o AA i ymweld a mi a’m hargyhoeddi y dylwn fynd am driniaeth am beth amser.  Fe es. 

Roedd yr amser hwnnw’n ddwys iawn.  Rhaid mod i wedi siarad am/neu ysgrifennu am ganoedd o ddigwyddiadau yfed yn ystod yr wyth wythnos honno.  Ychydig o gwsg a gefais, roedd fy meddwl fel pebai’n ceisio’n orffwyll i ddatod ei glymau ei hun bob munud effro.  Dywedwyd wrthyf mod i wedi bod yn ymladd gyda “dyrnau gwyn” – mod i wedi bod yn feddwyn sych.  Dysgais mwy am y salwch.  Dechreuais ymweld ag eglwys efenglyaidd bob dydd Sul.  Criais yno, canu yno, gweddio yno, cael cysur yno, canfod Duw yno. 

Tra ro’n i yno y derbyniais mod i’n alcoholig.  Ar rhyw bwynt hefyd, sylweddolais nad oeddwn yn meddwl am yfed, neu beidio yfed mwyach.  Y fath ryddid !  Ro’n i’n dechrau gwneud rhywfaint o gynlluniau !  O’r diwedd dechreuais weld y gallwn fyw gyda’r salwch, gyda chymorth Duw, a help a chymorth fy ffrinidiau yn AA ar hyd y ffordd. 

Heddiw rwy’n dysgu gwerthfawrogi bywyd am yr hyn ydyw.  Nid wyf i’n cael fy mhlagio mwyach gan ddisgwyliadau afreal – nid wyf yn cymryd fy hun gymaint o ddifri nawr.  Mae bywyd yn dda, ac rwy’n credu yr aiff yn well.  Rwy’n gwybod nad wyf byth ar fy mhen fy hun.  Er mor anodd ydyw weithiau, rwy’n gwybod na yrrir unrhywbeth ataf na allaf ymdopi ag ef.  Gam wrth gam, rwy’n cryfhau. 

Mae ‘mywyd wedi troi cornel.  Rwy wedi cael cyfle i ddechrau eto.  Y tro hyn rwy’n credu y byddaf i’n hapus.  Mae’r arfau wedi eu rhoi imi, ac rwy’n gobeithio ‘mod i wedi dysgu ychydig o leia’ o ‘ngorffennol.  Rwy’n malio eto – amdanaf i fy hun, ac eraill o ‘nghwmpas.  Credaf bod ‘na bwrpas i ‘mywyd ac y bydd y pwrpas hwnnw’n dod yn gliriach wrth i amser fynd yn ei flaen.  Ni wn beth sydd o ‘mlaen na lle ddiwedda’ i gan bod cymaint o bethau newydd yr hoffwn eu gwneud – ond wedyn, mae hynny’n rhan o’r hwyl.  Rwy’n dysgu fy narganfod fy hun unwaith eto.
blank
Dilynwch ni ar Twitter
Click here for our daily Blog
------------------------------
Cynghorion
gweddi
America
PDF o ran 1af a'r 2ail o daith Wynford yn America fel Cymrawd Winston Churchill, 2010
Syniad i Bawb
William White Papers
the road to god
Cliciwch yma am gymorth hunan-fyfyrio.

--------------------------------

Download

Lawrlwythwch
mainimage

   alcohol   love and sex   Drugs      
  Alcohol
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar gamddefnydd o alcohol a dibyniaeth
  Cariad a rhyw
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar ddibyniaeth rhyw a chariad
  Cyffuriau
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar gamddefnydd o, a dibyniaeth ar, gyffuriau
  Gor/Tan fwyta
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar gamddefnyddio bwyd
  Gamblo
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar ddibyniaeth gamblo