blank
bla nk
blank

Pethau Ysbrydol

PREGETH – CORFF ac ENAID

Dyma’r pethau cyntaf a ddysgais am grefydd, ‘roeddwn i tua 4 i 5 mlwydd oed:- ‘Duw cariad yw’. Yna diolch i’r holwyddoreg, ‘Rhodd Mam’; ‘Ysbryd yw Duw’ a’n bod yn gorff ac enaid. Wrth dyfu i fyny dysgais fwy am bwysigrwydd cariad. Yn wir dyma’r emosiwn pwysicaf o ddigon. Hebddo mae bywyd yn ddiflas ac mewn perygl o ddadfeilio’n llwyr. Cariad sy’n rhoi blas ar fyw ac yn rhoi i ni lawenydd anisgrifiadwy. R ydwi wedi dod i sylweddoli, ac i dderbyn heb amheuaeth, mai sylfaen y cariad yma yw cariad di-amod Duw. Fe gymerodd amser i mi ddechra deall mai bod ysbrydol yw Duw. Mae’r disgrifiad gorau sydd gennym o Dduw i’w gael yn y Llyfr Gweddi Cyffredin :- ‘Di-ddiwedd, heb gorff, darnau na nwydau; gyda gallu, doethineb a daioni di-derfyn.’ ‘Doedd derbyn fy mod i a phawb arall yn fod corfforol ddim yn anodd o gwbwl – ‘roedd hynny yn hollol amlwg cyn i mi ddechra dysgu atebion ‘Rhodd Mam’. Ond ‘r oedd trio deall fy mod i yn ‘enaid’ hefyd yn anodd ac mae wedi parhau felly hyd heddiw. Dyna pam yr es i ati i drio cyfansoddi’r bregeth yma. Sut mae deall ein bod ni’n gorff ac enaid?

Mae’r Beibl yn pwysleisio hyn.Gadewch i ni wrando ar ychydig enghreifftiau:- (Josua 22: 5) Mae Josua yn annog y bobl i ‘Garu’r Arglwydd eich Duw, a cherdded yn ei holl lwybrau, i gadw ei orchmynion, a glynu wrtho a’i wasanaethu â’ch holl galon ac â’ch holl enaid.’

Mae Eseia (10: 18) yn son am ‘glaf yn ychu, yn enaid a chorff.’

Dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, (Mathew 10: 28) “A pheidiwch ac ofni’r rhai sy’n lladd y corff, ond na allant ladd yr enaid; ofnwch yn hytrach yr hwn sy’n gallu dinistrio’r enaid a’r corff yn uffern.’

Yna (Mathew 22, 37) “Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl.”

Mae Paul yn ei lythyr cyntaf at y Thesaloniaid (5: 23) yn gofyn i Dduw eu ‘sancteiddio yn gyfan gwbwl a chadw eu hysbryd a’u henaid a’u cyrff yn gwbwl iach a di fai.’
Tydi’n synhwyrau sy’n gwneud i ni sylweddoli ein bod yn gnawd, gwaed ac esgyrn ddim yn helpu i ni dderbyn elfen arall i’n bodolaeth, sef enaid. ‘Ryda ni’n gweld ein hunain, yn tynnu lluniau ein hanwyliaid a’n ffrindiau ac yn cyffwrdd ein gilydd. Fedrwn ni ddim gweld, tynnu llun na chyffwrdd ein heneidiau. Mae’r corff yn uned biolegol i’w astudio’n feddygol, wyddonol – mae modd ei bwyso a’i fesur, mae peledr X a scanner ‘ultra sound’ yn dangos beth sydd dan y croen. Trwy’r meicrosgob ‘ryda ni’n gweld gwneuthuriad celloedd ein horganau, ein hesgyrn a’r gwaed yn ein gwythiennau. Mae meddygon ac ysbytai ar gael i iachau’r corff pan aiff rhywbeth o’i le. Wnaiff yr un camera, peledr X, scan na microscope ddangos yr enaid i ni. Mae’r dadleuon yma yr un mor berthnasol i’r hyn gefais fy nysgu am Dduw, sef ‘Ysbryd yw Duw’. Ni all yr un camera na’r un arlunydd nac unrhyw scanner roi llun i ni o Duw. Ysgrifennodd un geneth fach, 9 mlwydd oed, at Dduw – ‘Mae gen i luniau o bobl enwog, yn wir chdi ydi’r unig un nad oes gen i lun ohono.’ Fodd bynnag rydwi’n hollol siwr o fodolaeth Duw fel Creawdwr galluog, doeth a da oherwydd bodolaeth ei greadigaeth. Fedra i ddim derbyn fod bywyd a’r greadigaeth wedi dod i fod drwy hap a damwain heb ymyraeth unrhyw Gynllunydd a chanddo rym creadigol. Gwerthwyd argraffiad cyntaf ‘The Origin of Species’ gan Charles Darwin i gyd ar ddiwrnod ei gyhoeddi, 24ain o Dachwedd 1859. Felly byddwn yn dathlu cant a hanner mlwyddiant y cyhoeddiad hanesyddol a chwildroadol yma eleni. Er fy mod i’n ffan mawr i Darwin fedra i ddim derbyn fod damcaniaeth esblygiad bywyd yn ddigonol o bell ffordd i ateb bob cwestiwn sy’n codi wrth i ni geisio deall bywyd yn ei amrywiol ffurf. Yn wir wnaeth Darwin ei hun ddim honni hynny. I mi mae derbyn bydysawd heb Dduw yn codi mwy o gwestiynnau dyrys, na derbyn bydysawd hefo Duw. Yn ogystal ‘rydwi cyn sicred fod y Creawdwr yn Dad sy’n Caru oherwydd fod hyn wedi ei ddarlunio’n glir yn yr hyn wnaeth ac a ddywedodd Iesu o Nasareth. Yn dilyn mae ei anogaeth pwysicaf ar i ni garu Duw a chymydog fel ni ein hunain yn gwbwl angenrheidiol i feithrin a diogelu pob perthynas.

Mis Mawrth eleni trafodwyd mesur eithriadol o bwysig yn y senedd – mesur i ddiweddaru deddf 1990 oedd yn gosod framwaith ar gyfer triniaethau ffrwythlondeb a gwaith ymchwil i’r embryo. Mae’r mesur bellach wedi ei dderbyn. Cafwyd dadlau ffyrnig, esgobion a gwyddonwyr ar y nail ochr a’r llall, y Cabinet yn rhannedig fel y cyhoedd yn gyffredinol. Dywedodd y Cardinal Keith O’Brien, arweinydd yr Eglwys Babyddol yn yr Alban, fod y mesur yn ymosodiad ffyrnig ar iawnderau ac urddas dynol ac y byddai’n arwain at arbrofi Frankenstenaidd. Gwrthwynebwyd y mesur hefyd gan Esgob Lichfield am ei fod yn tanselio rhan allweddol bwysig o’r ffydd Gristnogol, sef parch at embryos dynol. Ymatebodd yr Arglwydd Wynston, arbennigwr yn y maes, drwy ddweud fod y Cardinal yn gelwyddog ac yn gamarweiniol. Gwadodd yr Athro Colin Blakemore, cyn bennaeth y Medical Research Council, y byddai’r mesur yn arwain at greu anghenfilod, a’i fod yn bychanu cysegredigrwydd bywyd dynol.

Daeth crefydd, gwleidyddiaeth, meddygaeth a moeseg ben ben a’i gilydd. Ar wyneb ddalen yr ‘Independent’ cafwyd ddarlun o embrio – clystwr o gelloedd gyda’r cwestiwn:- ‘Is this a clump of cells? Or a living being with a soul?’ Hyd yn oed wedi i ni dyfu i fod yn bersonau byw mae’r cwestiwn yn berthnasol. Ydwi ddim amgenach na chlystwr o gelloedd sydd wedi gwahaniaethu i ffurfio organau, nerfau, gwaed ac esgyrn. Neu ydwi yn berson byw gydag enaid? Yr ‘Independent’ eto It is the dispute that lies at the heart of the controversy over the Embryo Bill and it is as fundamental a difference of opinion as it is possible to imagine.’ Gwir bob gair. Heb ateb ‘Rhodd Mam’ sydd wedi mynd yn rhy hen fasiwn i’w ddefnyddio, ein bod yn gorff ac enaid, tyda ni ond yn glystwr o gelloedd. Yn ddiddorol iawn tydi ateb ‘Rhodd Mam’ ddim yn rhy henffasiwn i’w ddefnyddio gan y ‘Times’ oherwydd meant yn cyhoeddi adran
sy’n dwyn y teitl ‘Body & Soul’ yn wythnosol! Wrth gwrs mae’n wir fod pob un ohonom yn glystwr amrywiol o gelloedd sydd yn cyd gysylltu a chydweithio a’i gilydd i’n gwneud yr hyn yda ni’n feiolgeol, sef uned corfforol. Mae Paul yn ei Lythyr 1af at y Corinthiaid yn tynnu sylw at hyn:- ‘Oherwydd nid un aelod yw’r corff ond llawer. Pe baent i gyd yn un aelod, lle byddai’r corff?(12: 14) Ond fel y mae, llawer yw’r aelodau, ond un yw’r corff. Ni all y llygaid ddweud wrth y llaw, “Ni does arnaf dy angen di”, na’r pen chwaith wrth y traed, “Nid oes arnaf eich angen chwi.”(12: 19-21) Os bydd un aelod yn dioddef, y mae pob aelod yn cyd-ddioddef: neu os y bydd un aelod yn cael ei anrhydeddu, mae pob aelod yn cydlawenhau.’ ( 12: 26) Mae Paul yn pwysleisio mai Duw sy’n gyfrifol am hyn. ‘Ond fel y mae, gosododd Duw yr aelodau, bob un ohonynt, yn y corff fel y gwelodd ef yn dda.’ (12: 18)

Wrth dderbyn mai Duw sy’n gyfrifol am esblygiad y corff dynol mae’n rhesymol i ni dderbyn fod yna elfen ysbrydol i’n bodolaeth – ein bod yn gorff ac enaid.
Ond beth am yr enaid yma? Be ydio mewn gwirionedd? Tydwi ddim wedi dod ar draws neb sy’n gwadu bodolaeth yr enaid.

Yn ôl Julian Baggini, yr athronydd ‘it is a non-physical core of ourselves, that bit who makes us who we are-or if you like that exists after we die’. Mae Salm 116: 7-8, yn dweud ‘Gorffwysa unwaith eto, fy enaid, oherwydd bu’r Arglwydd yn hael wrthyt; oherwydd gwaredodd fy enaid rhag angau.’ Cawn wybod gan Iago, 5: 20, y ‘bydd y sawl a drodd y pechadur o gyfeiliorni ei ffordd yn achub ei enaid rhag angau.’
Mae rhai yn cyfeirio at yr enaid fel anadl Duw ynom. Eraill fel yr hyn sy’n ein cysylltu a rhywbeth mwy na ni ein hunain. Eto dywed rhai mai’r enaid yw’r elfen foesol ac emosiynol sy’n rhan ohonom. Yr enaid, medd eraill, sy’n rhoi i ni ynni deallusol a chreadigol sy’n sail gwybodaeth a chelfyddyd ymhob maes. Mae’r ymadrodd ‘soul mate’, ‘cyfaill enaid’ yn gyfarwydd i ni. Cyfeillgarwch dwfn, cryf, agos a pharhaol. Gwrandewch ar y geiriau yma o Lyfr 1af Samuel 18: 1, ‘Wedi i Ddafydd orffen siarad â Saul, ymglymodd enaid Jonathan wrth enaid Dafydd, a charodd ef fel ei hun.’ Dyna ddeffiniad o gyfaill enaid.

Beth yw perthynas corff ac enaid?

Roedd yr athronydd Descartes yn edrych ar y corff fel uned biolegol, mecanyddol a materol. Yr enaid sy’n gwneud y corff yn ymwybodol o hono’i hun fel person dynol, deallus.

‘Ryda ni’n ddyledus i’r enaid am ein perthynas â Duw, am wir gyfeillgarwch, am wyddoniaeth, barddoniaeth, cerddoriaeth, darluniau, cerflynniau, pensaerniaeth – yn wir am ddoniau creadigol. Yr enaid sy’n ein gwneud yn ymwybodol o bwy yda ni. Mae’n amlwg felly fod yr enaid yn elfen holl bwysig o’n bodolaeth. Yn wir byddai corff heb enaid yn anghyflawn.

Bu farw John O’Donohue ddechra Ionawr llynedd – bardd, offeiriad ac awdur llyfrau crefyddol. ‘Teitl ei lyfr cyntaf oedd Anam Cara; sef “Cyfaill yr Enaid” Mae Duw yn nes atom na blaenau’n bysedd. Duw ydi canolbwynt ein bodolaeth. Yn ei lyfr ‘Benedictus’ mae’n dweud nad oes yn rhaid i ni fynd allan i ddod o hyd i gariad. ‘Does ond yn rhaid i ni fod yn llonydd a gadael i gariad ein darganfod ni. Mae holl bosibiliadau ein tynged dynol yn gorffwys yn eich enaid.’

Nae’n holl bwysig felly nad ydym yn esgeuluso’r enaid. Mae’n rhaid ei
gadw’n iach ac yn effro er mwy’n sylweddoli pwy yda ni, pam ryda ni yma a beth fedra ni ei gyflawni mewn bywyd a’n bodolaeth tu hwnt i hynny. Yr hyn sy’n diogelu ein heneidiau yw’r gair a blanwyd ynom pan oedda ni’n dechrau taith bywyd sef ‘Duw cariad yw.’

‘Fy enaid bendithia yr Arglwydd’ Fedrwn ni ddim dweud na dymuno dim byd gwell ar ddechrau blwyddyn. AMEN

....................................................................................................................................................

WILLIAM WHITE
Doethinebau a myfyrdodau William White...
mwy +

DUW
Does gan DDUW ddim enwad – Does ganddo ddim categori : Catholic, Protestant, Mwslim, Iddew.
mwy +

YN Y GWAED
Cau’r dwrn ar dynerwch,
Cau’r glust I dawelwch,
Cau’r llygaid o’r golau,
Cau’r blas ar wefusau
mwy +

DARLLENIAD : SALM 103
Ydech chi’n cofio’r pethau cyntaf ddysgoch chi am y Ffydd Gristnogol ? Ro’n i siwr o fod tua 3 neu 4 oed pan ddysgwyd fi i ddweud ‘Duw Cariad Yw’ o flaen gwasanaeth bore mewn capel llawn.
mwy +

TRAFODAETH AR GORFF AC ENAID
Gellir canfod un o’r disgrifiadau gorau o Dduw yn y Llyfr Gweddi Cyffredin – ‘Tragwyddol, heb gorff, rhannau nac angerdd ; grym diderfyn, doethineb a daioni’. Chês i ddim trafferth sylweddoli mod i wedi ‘ngwneud o gnawd, hyd yn oed cyn dysgu’r catecism. Ond profodd trio deall bod gen i enaid yn ogsytal â chorff, yn fwy anodd ac mae wedi parhau felly hyd heddiw.
mwy +

Cyfranwch, os gwelwch yn dda, i ”bethau ysbrydol” a’n helpu i ‘brofi’r pethau rhyfeddol hynny’ drwy glicio ar y ddolen hon.

blank
Dilynwch ni ar Twitter
Click here for our daily Blog
------------------------------
Cynghorion
gweddi
America
PDF o ran 1af a'r 2ail o daith Wynford yn America fel Cymrawd Winston Churchill, 2010
Syniad i Bawb
William White Papers
the road to god
Cliciwch yma am gymorth hunan-fyfyrio.

--------------------------------

Download

Lawrlwythwch
mainimage

   alcohol   love and sex   Drugs      
  Alcohol
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar gamddefnydd o alcohol a dibyniaeth
  Cariad a rhyw
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar ddibyniaeth rhyw a chariad
  Cyffuriau
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar gamddefnydd o, a dibyniaeth ar, gyffuriau
  Gor/Tan fwyta
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar gamddefnyddio bwyd
  Gamblo
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar ddibyniaeth gamblo